Ein Apeliadau Mawr
Yn ogystal â chodi arian cyffredinol yr ydym yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn, weithiau rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar apeliadau mawr gyda thargedau codi arian uchelgeisiol.
Gweler ein hapeliadau presennol isod.

Apêl Cwtsh Natur
Pwrpas apêl Cwtsh Natur Elusen Iechyd Bae Abertawe yw codi gwerth £200,000 i weddnewid yr hen ardd yng Nghanolfan y Plant Castell-nedd Port Talbot yn ardal therapi awyr agored ddiogel, sy’n cynnig gwledd i’r synhwyrau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol. Nod apêl Cwtsh Natur yw trawsnewid yr ardal yn lle tawel, diogel ac iachaol a hynny yng nghysur byd natur.
Her Canser 50 Jiffy
Mae’r seren rygbi Jonathan ‘Jiffy’ Davies yn arwain taith feicio flynyddol 50 milltir o Gaerdydd i Abertawe ym mis Awst.
Mae’r arian a godir yn cael ei rannu rhwng Canolfan Ganser De-orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton a Chanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd.
Mynd y Filltir Ychwanegol ar Gyfer Canser
Rydym am fynd y filltir ychwanegol i’n cleifion canser cyn, yn ystod ac ar ôl eu triniaeth.
Wedi’i lansio yn hydref 2024, bydd yr ymgyrch hon yn cefnogi’r pethau hynny nad ydynt yn dod o dan gyllid craidd y GIG. Mae’r rhain yn cynnwys triniaethau blaengar, mannau gorffwys a thriniaeth wedi’u hadnewyddu, mentrau lles i staff a hefyd helpu gyda chludiant i gleifion a’u hanwyliaid.
Rhannu GOBAITH
Mae cronfeydd elusennol yn cael eu defnyddio i ofalu am y gofalwyr drwy’r prosiect Rhannu GOBAITH sydd wedi ennill gwobrau.
Mae sesiynau celf a chreadigol arbennig gydag arlunwyr lleol yn cynnig mannau diogel i’n staff ddod o hyd i ffordd o fynegi teimladau na ellir eu rhoi mewn geiriau. Mae hyn yn eu helpu i wella a dod allan yn gryfach, yn barod i ddarparu’r gofal gorau i gleifion.
Apêl Cwtsh Clos
Diolch i bawb a’n helpodd i godi £160,000 i adnewyddu pum cartref oddi cartref ar gyfer teuluoedd â babanod bach a sâl yn Uned Gofal Dwys Newyddenedigol (NICU) Ysbyty Singleton. Bydd y newid yn effeithio ar gynifer o deuluoedd.
Newyddion diweddaraf