Taliadau untro a rhoddion rheolaidd
Taliadau untro a rhoddion rheolaidd gyda Enthuse
Gallwch wneud taliad untro neu sefydlu rhodd reolaidd i Elusen Iechyd Bae Abertawe drwy’r platfform rhoddion a chodi arian Enthuse, nad oes ganddo ffioedd darparwyr taliadau. Cofiwch nodi pa ward, adran neu apêl yr hoffech iddi fynd iddi.
Gyfrannu gyda JustGiving
Gallwch hefyd ddefnyddio JustGiving, sy’n cynnig llawer o awgrymiadau, help a chyngor os ydych chi’n cynnal eich digwyddiad eich hun.
Gyfrannu drwy siec
Os hoffech gyfrannu drwy siec, anfonwch hi i’r cyfeiriad isod, eto gyda nodyn ynghylch ble hoffech i’ch arian fynd:
Elusen Iechyd Bae Abertawe,
Pencadlys
1 Porthfa Talbot
Port Talbot, SA12 7BR