Apeliadau
Mynd y filltir ychwanegol ar gyfer canser
Rydym am fynd y filltir ychwanegol i’n cleifion canser cyn, yn ystod ac ar ôl eu triniaeth.
Wedi’i lansio yn hydref 2024, bydd yr ymgyrch hon yn cefnogi’r pethau hynny nad ydynt yn dod o dan gyllid craidd y GIG. Mae’r rhain yn cynnwys triniaethau blaengar, mannau gorffwys a thriniaeth wedi’u hadnewyddu, mentrau lles i staff a hefyd helpu gyda chludiant i gleifion a’u hanwyliaid.
Drwy’r ymgyrch hon rydym hefyd am godi ymwybyddiaeth o’r gwaith anhygoel a wneir gan Ganolfan Ganser De Orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed yn 2024.
Byddwn yn cynnwys straeon ysbrydoledig rhai o’n cleifion a’n staff, yn ogystal â threfnu digwyddiadau cyffrous a gofyn i’n cefnogwyr feddwl am eu syniadau codi arian eu hunain.
Cadwch lygad allan am y lansiad a llawer mwy o wybodaeth, dod yn fuan.
Cwtsh mawr i’r claf Jo Gwinnett o chwaer Allison Church o Uned Ddydd Cemotherapi, a wyliwyd gan y gweithiwr cymorth gofal iechyd Carolyne Paddison