Apeliadau
Rhannu GOBAITH
Mae cronfeydd elusennol yn cael eu defnyddio i ofalu am y gofalwyr drwy’r prosiect Rhannu GOBAITH sydd wedi ennill gwobrau.
Mae sesiynau celf a chreadigol arbennig gydag arlunwyr lleol yn cynnig mannau diogel i’n staff ddod o hyd i ffordd o fynegi teimladau na ellir eu rhoi mewn geiriau.
Trefnodd Rhannu GOBAITH nifer o sesiynau cerflunio traeth ar gyfer staff a’u teuluoedd.
Mae hyn yn eu helpu i wella a dod allan yn gryfach, yn barod i ddarparu’r gofal gorau i gleifion.
The initiative, a joint project between the health board’s Arts in
Dechreuodd y fenter, prosiect ar y cyd rhwng timau Celfyddydau mewn Iechyd a Gwella Ansawdd y bwrdd iechyd, fel ffordd i staff brosesu’r heriau a’r trawma a wynebwyd ganddynt yn ystod pandemig COVID.
Mae mwy na 1,000 o staff wedi cymryd rhan yn y prosiect mewn 18 mis, gan gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys sesiynau cerflunio tywod ar y traeth.
Cymerodd nifer o staff ran mewn fideo hefyd lle buont yn adrodd cerdd am eu meddyliau a’u teimladau yn ystod y pandemig.
Enillodd Rhannu GOBAITH y Fenter Lles Staff Gorau yn Uwchgynhadledd a Gwobrau Gweithlu y Nursing Times yn Llundain yn 2023, Gwobr Byw Ein Gwerthoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn 2023 ac roedd yn rownd derfynol Gwobrau Diogelwch Cleifion HSJ (Menter Lles Staff Gorau).
Mae aelod o staff yn cymryd rhan mewn sesiwn tecstilau.