Apêl Nadolig
Coeden Calon yr Ŵyl
Cyfrannwch rodd i gefnogi eich GIG lleol a gadael neges Nadoligaidd arbennig
Cyfrannwch rodd i gynorthwyo eich GIG lleol trwy gyfrwng ein hapêl Coeden Calon yr Ŵyl.
Mae Elusen Iechyd Bae Abertawe yn rhoi cyfle ichi gyfrannu rhodd a chofio anwylyd neu adael gair o ddiolch i staff sydd wedi mynd ymhell y tu hwnt i’r disgwyliadau.
Caiff coed Nadolig eu harddangos yn nerbynfeydd ysbytai Treforys, Singleton a Chastell-nedd Port Talbot, lle bydd modd ichi hongian eich neges arbennig.
Mae addurniadau ar ffurf sêr ar gael wrth ymyl y coed ym mhob safle. Awgrymir rhodd o £2, a gallwch dalu gydag arian parod, cerdyn neu ar-lein ar ein tudalen codi arian Enthuse. Mae cefn yr addurn yn wag, felly gallwch ysgrifennu eich neges eich hun.
Diolch i’n noddwyr hael, Newhall Janitorial a Tilbury Douglas, bydd pob ceiniog yn mynd tuag at achos da ar y safle hwnnw. Ni fyddai’r apêl wedi bod yn bosibl heb eu cefnogaeth nhw.
Medd Stuart Powell, Cyfarwyddwr Newhall Janitorial, sy’n noddi coeden Ysbyty Treforys: “Mae’r apêl hon yn crisialu ysbryd y Nadolig. Mae’n cynnig cyfle i bob un ohonom gofio’r rhai sy’n arbennig inni neu sydd wedi ein helpu, a hefyd mae’n gyfle i edrych tua’r dyfodol a’r modd y gallwn symud ymlaen a chynorthwyo cleifion, eu teuluoedd a staff diwyd.”
Dyma a ddywedodd Chris Edmonds, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Tilbury Douglas: “Pleser yw cael noddi coed Nadolig ysbytai Singleton a Chastell-nedd Port Talbot, fel rhan o’r ymgyrch Coeden Calon yr Ŵyl. Mae’n arwydd ein bod yn gwerthfawrogi’r gwaith anhygoel a wneir gan staff Bae Abertawe a’r gofal a roddant i’n cymunedau drwy gydol y flwyddyn.”
Mae croeso ichi dynnu llun pan fyddwch yn hongian eich addurn, a’i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol @swanseabayhealthcharity
Bydd y coed yn cael eu harddangos tan ar ôl y Nadolig er mwyn i’r rhai a gyfrannodd rodd gael cyfle i nôl eu haddurn, os dymunant.

Gall ymwelwyr roi arian mewn arian parod, gyda cherdyn neu drwy Enthuse.
