Apeliadau
Her Canser 50 Jiffy
Mae’r seren rygbi Jonathan ‘Jiffy’ Davies yn arwain taith feicio flynyddol 50 milltir o Gaerdydd i Abertawe ym mis Awst.
Mae’r arian a godir yn cael ei rannu rhwng Canolfan Ganser De-orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton a Chanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd.
Yn Abertawe mae’n talu am ymchwil i wneud triniaeth radiotherapi yn fwy effeithiol wrth ladd celloedd canser, gan leihau’r sgil effeithiau i gleifion.
Yn 2023 cymerodd 600 o feicwyr ran yn nhrydydd her flynyddol Jiffy – y nifer fwyaf hyd yma – gan godi cyfanswm o £55,963.
Y gobaith yw y bydd her 2024 yn cymryd y swm a godwyd dros bedair blynedd dros
£250,000
Dywedodd Jiffy:
“Mae’r digwyddiad hwn, a’r elusennau y mae’n eu cefnogi, yn agos iawn at fy nghalon.”
Dywedodd Sarah Gwynne, oncolegydd clinigol ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser De-orllewin Cymru:
“Ni allem wneud y gwaith hwn heb eich cefnogaeth ac rydym yn ddiolchgar iawn.”
Jonathan ‘Jiffy’ Davies a’i ffrindiau yn ystod her 2023
Mae crys newydd trawiadol wedi’i gynhyrchu’n arbennig ar gyfer pedwaredd Her Canser 50 flynyddol Jiffy