Apêl
Cwtsh Natur
Codi £200,000 at ardal natur ar gyfer iechyd a lles plant yng Nghanolfan Plant Castell-nedd Port Talbot.
Chwilio am apêl elusen plant lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot i gefnogi? Byddwch ran o rywbeth all newid bywydau gyda Cwtsh Natur.
Apêl leol gan Elusen Iechyd Bae Abertawe yw Cwtsh Natur. Mae’n anelu i godi £200,000 i drawsnewid yr hen ardd yng Nghanolfan Plant Castell-nedd Port Talbot mewn i ardal therapi awyr-agored sy’n ddiogel ac yn gyfoeth i’r synhwyrau i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol. Nod apêl ‘Cwtsh Natur’ yw trawsnewid y gofod mewn i ardal heddychlon, ddiogel sydd yn cefnogi pobl ifanc i wella yng nghofleidiad natur.
Mae’r ganolfan yn cefnogi miloedd o blant pob blwyddyn gydag ystod eang o anghenion corfforol, datblygiadol ac iechyd meddwl. Mae nifer o’r plant yma yn byw â chyflyrau hir dymor neu sy’n cyfyngu bywyd, ac mae’r ganolfan yn darparu therapi a chymorth hanfodol trwy’r tîm amlddisgyblaeth pwrpasol.
Tra bod gan y ganolfan gofod awyr agored, mae hi wedi dyddio ac nid yw’n ddiogel. Ein nod gyda ‘Cwtsh Natur’ yw creu gardd lle gall plant chwarae, gwella a chysylltu. Creu gofod sy’n cefnogi therapi, annog symud, a meithrin lles.
Trwy apêl ‘Cwtsh Natur’, rydym am greu cysegr sydd â natur yn y canol lle gall plant a theuluoedd:
● Cyrchu offer therapi awyr agored sy’n hygyrch ac yn gynhwysol
●Mwynhau gofod diogel, croesawgar ar gyfer chwarae synhwyrol ac ymlacio
● Cysylltu â natur a bywyd gwyllt i gefnogi lles a datblygiad
Cefnogwch Cwtsh Natur a helpwch greu gwaddol parhaol i blant ag anghenion ychwanegol yn ein cymuned. Gyda’n gilydd, gallwn dyfu rhywbeth prydferth.

Yr ardd synhwyraidd yw’r bennod nesaf yn y broses o drawsnewid Canolfan Plant Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
