Apeliadau
Apêl Cwtsh Clos
Rydym wedi codi £160,000 yn swyddogol i adnewyddu pum cartref i deuluoedd â babanod bach neu sâl yn Uned Gofal Dwys Newyddenedigol (NICU) Ysbyty Singleton!

Mae’r UGDN yn gofalu am bron i 500 o fabanod y flwyddyn.
Mae teuluoedd yn dod yma o bob rhan o Dde Cymru, nid dim ond Bae Abertawe, gyda llawer yn byw oriau i ffwrdd mewn car a hyd yn oed yn hirach ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae’n hynod bwysig bod rhieni’n treulio cymaint o amser â phosibl gyda’u babi yn ystod y cyfnod llawn straen hwn a dyna lle mae’r tai rhad ac am ddim yn dod i mewn.
Mewn cul-de-sac tawel, dim ond tafliad carreg o’r NICU, mae’r tai dwy ystafell wely hyn yn gartref croesawgar i deuluoedd sy’n byw rhy bell i deithio yn ôl ac ymlaen bob dydd.
Gyda chymorth ein cefnogwyr anhygoel, mae apêl Cwtsh Clos wedi codi £160,000 ar gyfer llety teuluoedd NICU yn Ysbyty Singleton. Diolch i chi i gyd!
Beth nesaf?
Rydym bellach yn canolbwyntio ar gwblhau’r gwaith adnewyddu ac ar baratoi’r tai i groesawu teuluoedd sydd mewn angen.
Bydd y diweddariadau diweddaraf am y gwaith adnewyddu’n cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, felly dilynwch ni ar Facebook, Instagram ac LinkedIn am newyddion rheolaidd.
Nodyn: Er bod y targed codi arian wedi’i gyrraedd, os hoffech barhau i gefnogi teuluoedd yr NICU (er enghraifft trwy gynnal a chadw, costau rhedeg neu brosiectau yn y dyfodol), byddem yn hynod ddiolchgar.
Mae’r cerddor a’r darlledwr Mal Pope yn cefnogi apêl Cwtsh Clos er cof am ŵyr Gulliver

Darganfyddwch fwy am sefydliadau partner ein helusen.