Apeliadau
Tîm Therapi
Plant
Mae chwarae ar gyfer pawb, a dyna pam rydym yn codi arian i gael gwared ar unrhyw rwystrau y gallai plant â chyflyrau acíwt a hirdymor eu hwynebu.
Hydrotherapi, sesiynau trampolîn ac ystafell synhwyraidd yw rhai o’r ffyrdd y mae ein tîm therapi plant yn cefnogi’r rhai ag anghenion ychwanegol trwy salwch, genedigaeth gynamserol, anabledd corfforol cymhleth a chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd.
Mae’r ystafell synhwyraidd yng Nghanolfan y Plant yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn cael gweddnewidiad diolch i roddion, sydd hefyd yn cefnogi gwaith ehangach y tîm.
Mae’r tîm yn cynnwys therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, therapyddion lleferydd ac iaith ac maent yn gweithio ochr yn ochr â phediatryddion ac ymwelwyr iechyd.
Maent yn darparu ymyriadau therapi, grwpiau rhieni a phlant a sesiynau therapi pwrpasol i helpu plant i ddatblygu sgiliau, rhyngweithio, dysgu a chwarae.
Maent hefyd yn darparu offer arbenigol i helpu rhieni i ofalu am eu plentyn gartref a chefnogi plant i allu chwarae ochr yn ochr â’u ffrindiau yn yr ysgol.
Mae’r ystafell synhwyraidd yn cael gweddnewidiad diolch i roddion hael.