Canllaw i
Adael rhodd yn eich ewyllys
Mae rhodd yn eich ewyllys yn un o’r nifer o ffyrdd y gallwch ddewis cefnogi ein gwaith.
Rydym wedi derbyn rhoddion hael gan ein cefnogwyr anhygoel. Mae llawer o’r bobl wych sy’n cyfrannu i’n helusen yn gwneud hynny er cof am rywun annwyl, yn aml fel diolch neu gydnabyddiaeth o’r gofal neu’r gefnogaeth a gawsant.

Mae rhoddion mewn ewyllysiau i Elusen Iechyd Bae Abertawe yn gwneud cymaint i’n helpu i gefnogi staff y GIG, darparu ymchwil ac offer arbenigol, a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd lleol. Felly, mae pob rhodd unigol yn hynod werthfawr.
Gall eich ewyllys fod yn un o’r dogfennau pwysicaf i chi ei ysgrifennu erioed. Bydd y llyfryn hwn yn rhoi dealltwriaeth glir i chi o sut mae’r arian a godir o fudd i gleifion, y rhai sy’n eu cefnogi nhw a’n staff. Rydym hefyd wedi cynnwys gwybodaeth ymarferol am sut i wneud a newid eich ewyllys a’r math o bethau i’w hystyried wrth ei ysgrifennu.
Yn olaf, gall eich ewyllys hefyd barhau â’ch cefnogaeth i achosion sy’n agos at eich calon. Trwy gynnwys rhodd i’n helusen yn eich ewyllys gallwch ysgrifennu diolch am byth gyda rhodd a fydd yn parhau i wneud gwahaniaeth, ymhell ar ôl i chi fynd.
Diolch am ystyried gadael rhodd i Elusen Iechyd Bae
Abertawe yn eich ewyllys.

Peidiwch ag anghofio! Gallwch hefyd ofyn am
roddion i Elusen Iechyd Bae Abertawe yn lle blodau angladd.