Tachwedd 11, 2026
Clwb Rygbi Tonna i gynnal Cais Curo Canser 2027

Mae’n bleser gan Elusen Iechyd Bae Abertawe gyhoeddi mai Clwb Rygbi Tonna yw’r lleoliad fydd yn cynnal Cais Curo Canser 2027, gan barhau gyda thaith y twrnamaint ar draws de Cymru am ei thrydydd flwyddyn.
Mae’r twrnamaint yn dwyn ynghyd dimau, cefnogwyr a chymunedau ar draws de Cymru er mwyn codi arian ar gyfer gwasanaethau canser o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gan ddathlu grym chwaraeon a chymuned wrth wneud gwahaniaeth i gleifion, teuluoedd a staff y GIG.
Mae’r ddau dwrnamaint blaenorol wedi codi arian ar gyfer apêl Elusen Iechyd Bae Abertawe, Mynd y Filltir Ychwanegol ar Gyfer Canser, sydd wedi cyrraedd ei tharged codi arian o £200,000 yn llwyddiannus yn nigwyddiad 2026.
Gyda’r garreg filltir hon wedi’i chyrraedd, mae Cais Curo Canser yn dechrau ar bennod newydd. Bydd yr holl enillion o dwrnamaint 2027 yn mynd tuag at achos newydd i gefnogi gwasanaethau canser yn ne-orllewin Cymru, gyda manylion pellach i’w cyhoeddi.

Dywedodd Cathy Stevens, Swyddog Elusen Cymorth Cymunedol yn Elusen Iechyd Bae Abertawe:
“Mae’r digwyddiad yn parhau i dyfu bob blwyddyn, felly roeddem angen lleoliad fyddai’n tyfu gyda ni. Mae gan Tonna gyfleusterau gwych, ysbryd cymunedol cryf a brwdfrydedd gwirioneddol dros gefnogi’r digwyddiad, gan ei wneud yn ddewis perffaith ar gyfer 2027.”
Bydd y symudiad i Glwb Rygbi Tonna yn helpu’r twrnamaint i barhau i dyfu, gyda 24 o dimau’n cymryd rhan yn 2027. Mae pob tîm wedi ymrwymo i godi o leiaf £500, gydag ymdrechion codi arian cyfranogwyr blaenorol yn codi cyfanswm cyfunol o £84,000 – gan ddangos yn union faint ellir ei gyflawni pan mae cymunedau’n dod ynghyd.
Dywedodd Cadeirydd Clwb Rygbi Tonna, Gary Knight:
“Rydym ni’n teimlo’n freintiedig iawn o gael y twrnamaint yma. Rydym ni’n croesawu teuluoedd ac yn cefnogi nifer o elusennau. Rwy’n credu ei fod yn achos clodwiw, ac rwy’n sicr y byddwn yn gwneud ein gorau i’w wneud yn ddiwrnod llwyddiannus i bawb ohonoch.”
Mae’r twrnamaint hefyd wedi derbyn cefnogaeth gref gan Faer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Alan Lockyer, sydd wedi mynychu’r ddau ddigwyddiad blaenorol. Mae wedi tynnu sylw at y traweffaith ehangach y gall cynnal y twrnamaint ei gael ar y gymuned gyfagos.
Dywedodd y Cynghorydd Alan Lockyer:

“Mae’r gymuned jest yn dod at ei gilydd, a phan rydych chi’n mynd â’ch digwyddiad rygbi cyffwrdd i gymuned, mae’n creu cymaint o gefnogaeth a diddordeb. Nid dim ond o ran y digwyddiad ei hun, mae’n ehangu i’r gymuned leol.”
Fe wnaeth hefyd dynnu sylw at bwysigrwydd codi arian sy’n aros o fewn y rhanbarth:
“Mae eich ysbytai lleol yn rhanbarth Bae Abertawe’n derbyn arian yn uniongyrchol o’r gymdogaeth wedi’i godi gan y gymdogaeth ac yn mynd yn ôl i’r gymdogaeth yn hytrach na’r hyn fyddai’n digwydd gyda digwyddiad elusennol cenedlaethol.”
Gyda lleoliad newydd, ffocws codi arian newydd a 24 o dimau’n barod i fynd ar y cae, mae’n edrych yn addawol y bydd Cais Curo Canser 2027 yn adeiladu ar lwyddiant y ddwy flynedd flaenorol, gan ddod â hyd yn oed mwy o bobl ynghyd i gefnogi gwasanaethau canser lleol.