Digwyddiad seiclo
Her Ganser 50 Jiffy
Mae chwedl rygbi Cymru, Jonathan ‘Jiffy’ Davies, yn arwain taith feicio flynyddol 56 milltir o Gaerdydd i Abertawe ym mis Awst.

Helpwch ni i fynd i’r afael â chanser yn Ne a Gorllewin Cymru! Ymunwch â ni ar ddydd Sul 15 Awst 2027 ar gyfer seithfed flwyddyn Her Canser 50 Jiffy.
Y llynedd, fe wnaeth mwy na 445 o feicwyr gymryd rhan yn yr her feicio flynyddol, ac rydym yn gobeithio rhagori ar hynny yn 2027! Wrth baratoi ar gyfer pob digwyddiad, mae ein beicwyr wedi codi arian gyda brwdfrydedd ac ymroddiad arbennig, gan ein helpu i godi mwy na £375,000 ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghanolfan Ganser De Orllewin Cymru (SWWCC) yn Ysbyty Singleton a Chanolfan Ganser Felindre.
Mae elw’r daith yn cael ei rannu rhwng Elusen Iechyd Bae Abertawe ac Elusen Canser Felindre i gefnogi gwasanaethau canser ledled De Cymru. Bydd beicwyr yn herio eu hunain ar hyd y llwybr heriol 56 milltir o Stadiwm Dinas Caerdydd i Fae’r Freichled yn Abertawe.
Dan arweiniad eicon rygbi Cymru, Jonathan ‘Jiffy’ Davies, bydd taith eleni yn nodi’r seithfed flwyddyn yn olynol i’r digwyddiad gael ei gynnal. Rydym yn eich gwahodd i’n helpu i fynd â phethau i’r lefel nesaf ar gyfer Her Canser 50 Jiffy 2027. Ydych chi’n barod am yr her?
In 2026, over 445 cyclists took part in Jiffy’s sixth annual challenge – the largest number so far – raising a total of £75,000
Dros y pum mlynedd ddiwethaf, rydych wedi ein helpu i godi swm anhygoel o
£375,000
Dywedodd Jiffy:
“Mae’r digwyddiad hwn, a’r elusennau y mae’n eu cefnogi, yn agos iawn at fy nghalon. Roedd pobl ar y daith sy’n cael triniaeth canser ar hyn o bryd. Ar y dyddiau tywyllaf, mae angen dathlu diwrnodau fel hyn.”
Dywedodd Sarah Gwynne, ymgynghorydd oncoleg glinigol yng Nghanolfan Ganser De Orllewin Cymru:
“Ni allem wneud y gwaith hwn heb eich cefnogaeth, ac rydym yn hynod ddiolchgar”


Crys y llynedd