Medi 9, 2026
Paentiad unigryw o’r Regata’n helpu i roi hwb i gronfa elusen yr Arglwydd Faer

Mae artist o Abertawe wedi rhoddi paentiad unigryw o Regata’r Arglwydd Faer i helpu i godi arian ar gyfer apêl canser a hyrwyddwyd gan y cyn-Arglwydd Faer, y Cynghorydd Cheryl Philpott.
Cyflwynwyd y celfwaith yn ffurfiol gan Jeff Phillips i’r Cynghorydd Philpott a Rheolwr Elusen Iechyd Bae Abertawe, Lewis Bradley, yn Neuadd y Ddinas ddydd Mawrth 14 Gorffennaf.
Ysbrydolwyd y paentiad gan ddigwyddiad ail-lansio Regata’r Arglwydd Faer yn ystod blwyddyn y Cynghorydd Philpott yn y swydd ac fe’i rhoddwyd i gefnogi’r apêl Going the Extra Mile for Cancer.
Nawr, gall preswylwyr wneud cynnig am y celfwaith unigryw mewn arwerthiant a drefnir gan yr apêl Going the Extra Mile for Cancer a fydd yn elwa’n uniongyrchol o’r ymgyrch codi arian.
Ewch i’r ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais.
Crëwyd y paentiad gan Mr Phillips, artist o Abertawe y mae ei waith wedi’i arddangos yn rhyngwladol, ar ôl iddo fynd i’r regata eleni a thynnu lluniau o amgylch Bae Abertawe. Mae’r paentiad olew gorffenedig yn cynnwys llongau hwylio ar y bae ochr yn ochr â thirnodau adnabyddus gan gynnwys Goleudy’r Mwmbwls a gorsaf bad achub yr RNLI.
Meddai Jeff Phillips, “Cefais wahoddiad i un o ddigwyddiadau Cheryl ac roedden ni’n siarad am Elusen yr Arglwydd Faer. Dywedais y byddwn i’n gwneud paentiad arbennig i’w arwerthu ar gyfer yr elusen.
“Fe es i i’r regata, tynnu nifer o ffotograffau a chreu’r paentiad o’r rheini. Gobeithio pan fydd yn cael ei arwerthu y bydd yn codi swm sylweddol o arian ar gyfer achos gwerth chweil iawn.”
Meddai’r cyn-Arglwydd Faer, y Cynghorydd Cheryl Philpott, “Cynigiodd Jeff i roi rhodd tuag at fy elusen o ddewis, Going the Extra Mile for Cancer.
“Un o’r digwyddiadau allweddol yn ystod fy mlwyddyn fel Arglwydd Faer oedd ail-lansio Regata’r Arglwydd Faer yn y Mwmbwls, felly daeth Jeff iddo, tynnodd ffotograffau ac yna creodd y paentiad hollol drawiadol hwn i ni.
“Mae wedi bod yn wych gweld gwahanol bobl a sefydliadau’n dod at ei gilydd i gefnogi’r apêl. Rwy’n hynod ddiolchgar i Jeff am ei haelioni a’r amser y mae wedi’i fuddsoddi mewn cynhyrchu darn o gelfwaith mor hardd.”
Cynhelir apêl Going the Extra Mile for Cancer gan Elusen Iechyd Bae Abertawe, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Nod yr apêl yw helpu i greu cyfleuster cleifion allanol pwrpasol i bobl â chanser yn Ysbyty Singleton, gan ddod â gwasanaethau arbenigol at ei gilydd i gleifion o bob rhan o Dde-orllewin Cymru.
Meddai Lewis Bradley, Rheolwr Elusen Iechyd Bae Abertawe, ““Rydym yn hynod ddiolchgar i Jeff a Cheryl am wneud hyn yn bosib. Rydym yn falch iawn ein bod ni bellach wedi cyrraedd ein targed o £200,000, sy’n gyflawniad aruthrol ac yn dangos pa mor hael a chefnogol yw pawb i’r apêl.
“Bydd yr elw o’r paentiad yn caniatáu i ni adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a gwella’r gofal a’r gefnogaeth rydyn ni’n eu darparu i gleifion sy’n brwydro yn erbyn canser.”