Mai 28, 2026
“Paediatric Pacers” yn Paratoi ar gyfer Hanner Marathon Abertawe!

Pob lwc i’r “Paediatric Pacers” – tîm o saith aelod ymroddedig o staff pediatreg Ysbyty Treforys sy’n gwisgo’u hesgidiau rhedeg ac yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Abertawe ar 7 Mehefin er mwyn cefnogi Elusen Iechyd Bae Abertawe!
Mae’r tîm eisoes wedi codi mwy na £900, gyda’r arian yn mynd tuag at wella profiad plant a theuluoedd sy’n derbyn gofal ar y ward bediatrig.
Wedi’u hysgogi gan angerdd dros ofal sy’n canolbwyntio ar y teulu, roedd y tîm eisiau gwneud rhywbeth a fyddai’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i gleifion a theuluoedd yn ystod eu hamser yn yr ysbyty.
Dywedodd Megan Williams, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd:
“Mae gofal sy’n canolbwyntio ar y teulu yn bwysig iawn i ni mewn pediatreg, ac rydym eisiau creu amgylchedd ‘cartref oddi cartref’ i gleifion a’u teuluoedd. Wrth weithio ar y wardiau, rydym yn gweld yn uniongyrchol ble mae diffyg adnoddau i’r teuluoedd hyn, a gallai codi arian helpu i wella hyn.”
Mae’r Paediatric Pacers yn codi arian i ddarparu eitemau hanfodol a chysuron bob dydd a all helpu i wneud arhosiadau yn yr ysbyty ychydig yn haws yn ystod cyfnod sy’n aml yn straenus ac ansicr i deuluoedd.
Ar eu tudalen codi arian, dywedodd y tîm:
“Bydd yr arian a godir yn mynd yn uniongyrchol tuag at eitemau sydd eu hangen yn aml ond nad ydynt bob amser ar gael yn rhwydd, megis cynhyrchion mislif, padiau mamolaeth, dymis, tapiau NG a theganau synhwyraidd.
“Er y gall y rhain ymddangos yn bethau bach, maent yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi anghenion ymarferol a lles emosiynol yn ystod cyfnod sy’n gallu bod yn straenus ac ansicr iawn.”
Nid yn unig mae’r her wedi bod o fudd i gleifion a theuluoedd – mae hefyd wedi dod â’r tîm yn nes at ei gilydd.
“Rydym wedi gallu trefnu sawl cyfarfod a rhediadau ymarfer — gyda stop coffi wedyn wrth gwrs! — gan gefnogi a chymell ein gilydd ar hyd y daith,” ychwanegodd Megan.
“Fel staff nyrsio, rydych yn treulio oriau hir gyda’ch cydweithwyr ac yn adeiladu perthnasoedd gwaith gwych. Rydym wedi meithrin cyfeillgarwch arbennig ac yn teimlo’n lwcus iawn i gael y tîm hwn y tu ôl i ni.”
Mae eu hymdrechion yn enghraifft wych o sut y gall codi arian wneud gwahaniaeth gwirioneddol i wasanaethau gofal iechyd lleol a lles cleifion ledled Bae Abertawe.
Ydych chi’n teimlo wedi’ch ysbrydoli? Boed hynny drwy gymryd rhan mewn her chwaraeon, cynnal bore coffi neu drefnu digwyddiad codi arian cymunedol, mae pob rhodd yn helpu Elusen Iechyd Bae Abertawe i gefnogi mannau gwell, offer uwch-dechnoleg, lles a hyfforddiant staff, lles cleifion a theuluoedd, ac ymchwil arloesol ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Pob lwc, Paediatric Pacers – byddwn yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd!