Ebrill 30, 2026
Codi Arian Campus: Ebrill

Bob mis, rydym yn tynnu sylw at y gwaith codi arian anhygoel sy’n digwydd ledled Bae Abertawe a thu hwnt — yn dathlu pobl sy’n troi tosturi yn weithred. Mae mis Ebrill wedi bod yn llawn straeon ysbrydoledig, pob un wedi’i wreiddio mewn profiadau personol, diolchgarwch a’r awydd i roi’n ôl. Mae pob punt a godir a phob rhodd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n GIG lleol, gan wella gofal a chefnogi cleifion, staff a theuluoedd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Arweinwyr Cymunedol Port Talbot

Diolch o galon i Ysgol Gynradd Gatholig St Therese am eu cefnogaeth anhygoel i Ddiwrnod Syndrom Down y Byd, gan godi £265 ar gyfer Apêl Cwtsh Natur.
Gwisgodd disgyblion a staff liw gwyrdd a sanau od yn falch cyn mynd am dro i Draeth Aberafan, yng nghwmni ein llysgennad elusen wych, Joel Oates, a roddodd araith ysbrydoledig i’r plant.
Mae eiliadau fel hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i godi arian — maent yn helpu i feithrin dealltwriaeth, caredigrwydd a chynhwysiant o’r oedran cynharaf. Diolch i gymuned gyfan yr ysgol am ddangos cefnogaeth mor gynnes a chalonogol.
Hoffem hefyd ddiolch yn fawr i Aberavon Green Stars am gymryd rhan yn Niwrnod Sanau Od ar gyfer Diwrnod Syndrom Down y Byd a chodi £175 ar gyfer yr un apêl. Diolch arbennig i ewythr Joel am drefnu hyn — enghraifft wych o ysbryd cymunedol ar waith.
Gyda’i gilydd, mae’r ymdrechion hyn yn helpu i drawsnewid Apêl Cwtsh Natur yn rhywbeth gwirioneddol arbennig i blant ag anghenion ychwanegol yn ein cymunedau.
Arwyr Marathon Llundain dros NICU

Mae rhai straeon codi arian yn dechrau o’r lleoedd mwyaf personol.
Y mis hwn, cododd Delyth Mathias £1,615 anhygoel ar gyfer NICU Singleton ar ôl rhedeg Marathon Llundain. Cafodd ei nai, Llion, ofal yno ar ôl cael ei eni bum wythnos yn gynnar:
“Fe wnaeth NICU ofalu amdano pan gafodd ei eni bum wythnos yn gynnar. Roedd y gofal a gafodd yn wirioneddol eithriadol. Hoffwn roi rhywbeth yn ôl.”
Cododd rhedwraig ysbrydoledig arall, Wendy Price, £755 drwy redeg yr un marathon mewn gwisg ffansi. Cafodd babi ffrind agos ei eni ar 26 wythnos yn unig ac mae’n dal i fod o dan ofal NICU.
Rhannodd Wendy:
“Fe wnaethant ddarparu llety iddynt aros yn yr ysbyty a chynnig cefnogaeth drwy’r cyfnod anodd hwn. Mae’r babi yn gwneud yn dda ac wedi mwy na dyblu ei bwysau, ond mae’n dal yno. Felly hoffwn wneud rhywbeth i ddangos pa mor werthfawrogol yw pobl o’r hyn maent yn ei ddarparu.”
Dwy stori anhygoel gan ddwy fenyw wirioneddol ysbrydoledig. Diolch Delyth a Wendy!
Pob Pwdin yn Cyfrif
Diolch yn fawr i Adran Gyllid Tata Steel am eu gwerthiant cacennau Pasg gwych, gan godi £282 ar gyfer Apêl Cwtsh Natur!
Helpodd pob cacen a gafodd ei phobi, ei gwerthu a’i mwynhau i’n symud gam yn nes at greu gofod awyr agored diogel, llawn ysgogiadau synhwyraidd ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol yng Nghanolfan Plant Castell-nedd Port Talbot.
Mae’n syniad syml gyda effaith bwerus — ac yn ein hatgoffa y gall hyd yn oed creadigrwydd yn y gweithle helpu i newid bywydau.
Cychwyn Cryf i Her Jiffy’s Cancer 50
Mae Her Jiffy’s Cancer 50 eleni eisoes wedi codi £1,366 ar gyfer Elusen Iechyd Bae Abertawe a Chanolfan Ganser Felindre, gyda mwy eto i ddod.
Ymhlith y codwyr arian gorau hyd yma mae Paul Cox (£164), Neil White (£140) a Nicola Jones (£85), a rannodd reswm personol iawn dros gymryd rhan:
“Mae’r dyddiad yn nodi pum mlynedd ers i fy Nhad farw o’r clefyd ofnadwy hwn. Ymladdodd frwydr galed, ond fe enillodd canser yn y diwedd, ac rydym i gyd yn ei golli’n fawr iawn. Rwyf am roi rhywbeth yn ôl a chodi cymaint â phosibl i gefnogi’r elusennau hyn fel y gallant helpu pobl eraill drwy’r cyfnod anoddaf yn eu bywydau”.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar 16 Awst 2026, gyda’r beicwyr yn teithio o Gaerdydd, drwy Abertawe, ac yn gorffen ym Mae Bracelet ar ôl ymdrech olaf dan hebrwng yr heddlu — gan ddathlu gyda’i gilydd ar ddiwedd taith anhygoel.
Gyda dros 200 o gyfranogwyr eisoes wedi cofrestru a mwy yn ymuno bob wythnos, mae’r digwyddiad ar y trywydd iawn i ragori ar gyfanswm y llynedd o £55,000 — i gyd er budd gwasanaethau canser ledled De a Gorllewin Cymru.

Rydym mor ddiolchgar i bob unigolyn sydd wedi codi arian dros ein helusen GIG y mis hwn. Mae eich cefnogaeth yn mynd ymhellach nag y gallech ddychmygu — gan ein galluogi i ddarparu cysur a chefnogaeth i gleifion, teuluoedd a staff lleol.
Os ydych erioed wedi ystyried codi arian, nawr yw’r amser! Nid oes angen digwyddiad mawr na thîm enfawr — dim ond syniad, achos sy’n agos at eich calon, a’r parodrwydd i wneud gwahaniaeth.
Byddem wrth ein bodd yn eich helpu i wireddu eich syniad.
Oes gennych chi stori Codi Arian Campus i’w rhannu gyda ni? Cysylltwch!