
Cerddwch, rhedwch, nofiwch neu feiciwch eich ffordd i 30 Milltir ym mis Mai a helpwch godi arian ar gyfer apêl Cwtsh Natur.
Ydych chi’n barod i wynebu’r her?
Yn ail gyfres ein her 30 Milltir ym mis Mai, rydym yn cysegru’r digwyddiad rhithwir i apêl Cwtsh Natur! Gall eich milltiroedd wneud gwahaniaeth enfawr.
Y llynedd, lansiwyd apêl Cwtsh Natur, gyda’r nod o godi £200,000 i greu gofod natur ar gyfer iechyd a lles plant yng Nghanolfan Plant Castell-nedd Port Talbot.
Mae croeso i bawb – p’un a ydych yn dechrau ar eich taith ffitrwydd neu’n curo eich record bersonol. Cofrestrwch a chael awgrymiadau codi arian ac adnoddau yn cael eu hanfon yn syth i’ch blwch derbyn.
Angen ychydig o gymhelliant? Gallwch ymuno fel tîm i greu ychydig o gystadleuaeth, cefnogi’ch gilydd a chyrraedd mwy o gefnogwyr! Dewiswch yr opsiwn “tîm” yn ystod y broses gofrestru.
Mae mynediad am ddim, gyda’r isafswm targed codi arian wedi’i osod ar £30 – rhywbeth y gall unrhyw un ei gyflawni!
