Digwyddiadau
Her Canser 50 Jiffy
Mae’r seren rygbi Jonathan ‘Jiffy’ Davies yn arwain taith feicio flynyddol 50 milltir o Gaerdydd i Abertawe ym mis Awst.

Helpwch ni i fynd i’r afael â chanser yn Ne a Gorllewin Cymru! Ymunwch â ni ddydd Sul 16 Awst 2026 ar gyfer chweched flwyddyn Her Cancer 50 Jiffy.
Y llynedd, fe wnaeth dros 330 o feicwyr gyfrannu at yr her seiclo flynyddol, ac rydym yn gobeithio rhagori ar hyn yn 2026! Yn ystod y cyfnod cyn pob digwyddiad, bu ein beicwyr yn codi arian gyda brwdfrydedd a chalon, gan ein helpu i godi dros £300,000 ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghanolfan Ganser De-orllewin Cymru Ysbyty Singleton a Chanolfan Ganser Felindre.
Bydd elw’r daith yn mynd tuag at wasanaethau canser yng Nghanolfan Ganser De-orllewin Cymru, yn Ysbyty Singleton, ac Elusen Ganser Felindre. Bydd y beicwyr yn ymgymryd â’r llwybr heriol 50 milltir o Stadiwm Dinas Caerdydd i Fae Bracelet yn Abertawe.
Dan arweiniad eicon rygbi Cymreig Jonathan ‘Jiffy’ Davies, dyma fydd y chweched flwyddyn yn olynol i’r daith hon. Rydym yn eich gwahodd i’n helpu i fynd â phethau i’r lefel nesaf ar gyfer Her Cancer 50 Jiffy 2025! Ydych chi’n barod?
Yn 2025, cymerodd dros 330 o feicwyr ran yn bumed her flynyddol Jiffy – y nifer fwyaf hyd yma – gan godi cyfanswm o £48,000
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, rydych chi wedi ein helpu i godi swm anhygoel o
£300,000
Dywedodd Jiffy:
“Mae’r digwyddiad hwn, a’r elusennau y mae’n eu cefnogi, yn agos iawn at fy nghalon.”
Dywedodd Sarah Gwynne, oncolegydd clinigol ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser De-orllewin Cymru:
“Ni allem wneud y gwaith hwn heb eich cefnogaeth ac rydym yn ddiolchgar iawn.”

Jonathan ‘Jiffy’ Davies yn arwain gorffeniad buddugoliaethus yn Her Cancer 50 Jiffy 2025

Crys 2025