Hydref 13, 2025
Llwyddiant arall i Cwtsh ar hyd yr Arfordir

Roedd taith gerdded Cwtsh ar hyd yr Arfordir ddoe yn llwyddiant calonogol, gan godi cyfanswm anhygoel o £8,700, gan gynnwys rhodd hael o £5,000 gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality.
Mae hyn yn codi cyfanswm Ymgyrch Cwtsh Clos i £165,000, gan fynd y tu hwnt i’r targed gwreiddiol o £160,000 oedd ei angen i adnewyddu’r llety annwyl hwn. Bydd unrhyw arian ychwanegol a godir bellach yn mynd tuag at gynnal a chadw’r tai a disodli offer a chyfarpar trydanol, gan sicrhau bod teuluoedd yn parhau i gael lle cynnes a chroesawgar i aros yn agos at eu babanod.
Cymerodd 46 o oedolion, 10 o blant, a rhai cŵn ran yn y daith gerdded o ’r Mwmbwls i Ysbyty Singleton. Er i’r bore ddechrau’n oer, cyn bo hir roedd pawb wedi cynhesu wrth gerdded ar hyd y promenâd, yn sgwrsio ac yn rhannu straeon. Roedd llawer o’r cyfranogwyr â’u straeon eu hunain am yr Uned Gofal Dwys i Newydd-anedig (NICU), gan gynnwys rhai a fu’n aros yn Cwtsh Clos eu hunain.
Roedd Mal Pope, llysgennad yr elusen, hefyd yn bresennol gyda’i deulu. Mae Mal wedi bod yn gefnogwr brwd i’r apêl, gan rannu ei brofiad trawmatig o golli ei ŵyr bach cynamserol, Gulliver, i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch. Wrth i’r apêl ddod i ben mewn ffordd emosiynol, roedd yn gyfle arbennig i ddiolch i Mal yn bersonol am ei gefnogaeth wych a’r sylw y mae ei stori wedi’i roi i’r achos. Roedd rhieni Gulliver hefyd yn bresennol ac yn mynegi eu diolch i bawb a fu’n rhan o hyrwyddo’r ymgyrch.

Mae Elusen Iechyd Bae Abertawe yn estyn diolch o galon i bawb a gymerodd ran, a roddodd ac a gefnogodd y digwyddiad, ac i Gymdeithas Adeiladu’r Principality am eu nawdd parhaus a’u hymrwymiad i wneud Cwtsh Clos yn wir gartref oddi cartref.
Gyda’n gilydd, nid yn unig y mae cefnogwyr wedi helpu’r apêl i gyrraedd ei tharged, ond maent wedi creu rhywbeth fydd yn parhau i wneud gwahaniaeth i deuluoedd am flynyddoedd i ddod.

