Medi 8, 2025
Seren TikTok, Joel Oates, yn Cefnogi Apêl Elusen Leol

Mae Elusen Iechyd Bae Abertawe yn falch o gael croesawu personoliaeth TikTok, Joal Oates, a’i fam, Clare, yn llysgenhadon ar gyfer yr apêl Cwtsh Natur.
Pwrpas apêl Cwtsh Natur Elusen Iechyd Bae Abertawe yw codi gwerth £200,000 i weddnewid yr hen ardd yng Nghanolfan y Plant Castell-nedd Port Talbot yn ardal therapi awyr agored ddiogel, sy’n cynnig gwledd i’r synhwyrau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol. Nod apêl Cwtsh Natur yw trawsnewid yr ardal yn lle tawel, diogel ac iachaol a hynny yng nghysur byd natur.
Cafodd Joel, sydd â Syndrom Down, ofal a chefnogaeth yng Nghanolfan y Plant pan oedd yn ieuengach. Cofia Clare fod y ganolfan yn “lle cyfarwydd, diogel” lle’r âi Joel i gael ffisiotherapi ac ar gyfer apwyntiadau ag ymgynghorydd, a disgrifia’r staff yn bobl “groesawgar, caredig a hwyliog”, a byddai Joel yn edrych ymlaen at gael mynd i’r ysbyty.
Erbyn hyn, mae Joel a Clare yn talu’n ôl gan ddefnyddio eu presenoldeb cynyddol ar y cyfryngau cymdeithasol i roi’r gair ar led ynghylch yr apêl. Mae gan Joel dros 80,000 o ddilynwyr ar TikTok a 12,900 ar Instagram, lle mae’n rhannu ei fywyd gyda chynhesrwydd, hiwmor a natur gadarnhaol.
Meddai Clare:
“Mae’r elusen mor bwysig i ni. Gwnaeth Canolfan y Plant fyd o wahaniaeth i flynyddoedd cynnar Joel, a byddem wrth ein bodd yn helpu i godi ymwybyddiaeth fel y gall plant elwa o ardal awyr agored sy’n tawelu’r meddwl, yn hwyliog ac yn therapiwtig am flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Catrin Frame, Swyddog Codi Arian ac Ymgysylltu Digidol yn Elusen Iechyd Bae Abertawe:
“Pleser o’r mwyaf yw cael croesawu Joel a Clare atom ni fel llysgenhadon. Mae eu stori galonogol a’u brwdfrydedd pur wirioneddol yn rhoi bywyd i’r apêl, ac yn dangos yr effaith y gall Canolfan y Plant ei chael ar deuluoedd lleol. Bydd eu cefnogaeth yn ein helpu ni i godi ymwybyddiaeth am yr achos anhygoel hwn a rhoi bywyd i Cwtsh Natur.”




