Gorffennaf 8, 2024
Ffenestri wedi’u paentio yn rhoi gwên ar wynebau
Mae Ric Kane wedi rhoi sblash o liw i’r adran rhwng adrannau brys oedolion a phlant.
Daeth ei ystum ar ôl i fab ffrind gael ei drin gan yr Uned Frys Plant (CEU) yn dilyn anaf i’w ben.
Cynigiodd baentio pob ffenestr ger yr uned gyda’i thema unigol ei hun.
Ar ben hynny, mae wedi creu themâu unigol ar gyfer pob bae cleifion o fewn CEU.
Dywedodd Ric, 58, o Dreboeth: “Pan oeddwn yn yr uned, roedd y gofal a roddwyd i fab fy ffrind wedi creu argraff fawr arnaf. Roedd o’n eithriadol – wnaethon ni ddim aros yn hir iawn ac roedd yr holl staff yn ofalgar iawn.”
Dywedodd Victoria Laurie, nyrs staff CEU: “Mae’r paentiadau wedi bywiogi coridor yr Adran Achosion Brys yn fawr, ac rydym wedi derbyn llawer o ganmoliaeth gan gleifion, ymwelwyr a staff sydd wedi pasio drwyddo.
“Er nad ysbyty yw’r lle mae pobl eisiau bod, mae dyluniadau Eric wedi rhoi gwên ar wynebau ac i rai mae wedi newid eu ffocws ac wedi rhoi rhywbeth gwahanol iddyn nhw edrych arno a siarad amdano am gyfnod byr.”
Ychwanegodd Ric: “Dyma’r cyfle cyntaf i mi ei gael i helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ac rwyf mor hapus y gallwn wneud rhywbeth i helpu i roi gwên ar wynebau.”
Ric Kane gyda’r dyluniadau a beintiodd am ddim ar y ffenestri.
Nyrsys staff Victoria Laurie, chwith, a Maitha Price o flaen y ffenestri wedi’u paentio ar hyd coridor yr adrannau brys.
Dyluniodd Ric themâu gwahanol ar gyfer pob ffenestr.