Awst 17, 2026
Taith Feicio yn Codi £75K i Wasanaethau Canser Cymru

Eleni, nod Her Canser 50 Jiffy oedd codi £50,000 i Elusen Iechyd Bae Abertawe ac Elusen Ganser Felindre. Drwy godi arian yn sgil cymryd rhan, roedd 445 o feicwyr yn falch iawn o hen gyrraedd y targed hwn, wrth iddynt godi swm anhygoel o £75,000 – a mwy ar y ffordd!
Cwblhaodd y beicwyr y daith 56 milltir o Gaerdydd i Fae Bracelet ddydd Sul 16eg Awst, yng nghwmni sêr y byd rygbi, Jonathan “Jiffy” Davies ac Alun Wyn Jones. Cafodd digwyddiad eleni ei gefnogi gan 1,508 o roddwyr, ac unwaith eto fe ddaeth â beicwyr o bob gallu ynghyd, i gyd oll yn rhannu’r un penderfynoldeb i gefnogi cleifion canser a’u teuluoedd ledled de-orllewin Cymru. Dechreuodd beicwyr y daith o Gaerdydd am 8am a chyrraedd Bae Bracelet drwy gydol y prynhawn.



Mwynhaodd y beicwyr egwyl haeddiannol yng Ngwesty Morgans, a ddarparodd luniaeth am ddim i’r beicwyr cyn iddynt gwblhau rhan olaf y daith lle cawsant eu tywys gan yr heddlu drwy’r Mwmbwls at y Goleudy.
Mae’r her, a gaiff ei hyrwyddo gan Jonathan “Jiffy” Davies, yn parhau i godi arian hanfodol i Elusen Iechyd Bae Abertawe ac Elusen Ganser Felindre, sy’n helpu i wella cefnogaeth a gofal canser i gleifion ledled de Cymru.
I lawer o’r cyfranogwyr, roedd gan yr her gysylltiad personol dwfn. Un o feicwyr eleni oedd Andrew, sydd wedi rhannu ei stori yn flaenorol ynghylch cymryd rhan yn yr her ar ôl cael triniaeth yng Nghanolfan Ganser De-orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton. Cymerodd ran yn yr her fel ffordd o roi rhywbeth yn ôl i’r timau GIG a roddodd ofal iddo ef a’i deulu.

Cymerodd Alun Wyn Jones, cyn-gapten tîm rygbi Cymru, ran yn y daith hefyd, ac roedd yn canmol yr awyrgylch a’r bobl a oedd yn gyfrifol y digwyddiad.
Dywedodd:
“Roedd pawb mewn hwyliau da. Daethom at ein gilydd yng Ngwesty Morgans. Rwy’n ddiolchgar iawn eu bod wedi paratoi gwledd ac yna cawsom ein tywys gan yr heddlu i’r Goleudy.
“Rwy’n falch iawn o fod yma i gefnogi Canolfannau Canser Bae Abertawe a Felindre ond mae’r clod i Jiffy am yr holl waith mae wedi ei wneud a chefnogi’r elusennau, yn ogystal â’r bobl sydd wedi cymryd rhan heddiw.”
Yn sgil blwyddyn arall lwyddiannus i’r digwyddiad beicio, mae Jonathan “Jiffy” Davies yn erfyn ar ragor o bobl i gymryd rhan a chynorthwyo achos haeddiannol:
“Ymunwch â ni’r flwyddyn nesaf. Mae angen i ni godi mwy a mwy o arian i gwpl o elusennau canser lleol.”
Dywedodd Lewis Bradley, Rheolwr Elusen yn Elusen Iechyd Bae Abertawe:
“Roedd gweld 445 o feicwyr yn dod at ei gilydd a chodi £75,000 i wasanaethau canser lleol yn hollol anhygoel. Mae pob beiciwr, gwirfoddolwr, noddwr a rhoddwr wedi chwarae rhan mewn gwneud gwahaniaeth go iawn i gleifion a’u teuluoedd ledled de-orllewin Cymru.

Bydd yr arian a gafodd ei godi drwy her eleni yn helpu Elusen Iechyd Bae Abertawe ac Elusen Ganser Felindre i barhau i ddarparu gwelliannau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i brofiad cleifion canser a’u hanwyliaid.
Daeth her 2026 i ben gyda channoedd o feicwyr yn croesi’r llinell derfyn ym Mae Bracelet, gan ddathlu blwyddyn lwyddiannus arall o godi arian, ysbryd cymunedol a chefnogaeth i wasanaethau canser lleol.
Mae cofrestru cynnar ar gyfer Her 2027 Canser 50 Jiffy ar agor nawr.
P’un a ydych yn feiciwr profiadol, yn chwilio am eich her nesaf neu awydd gwneud rhywbeth gwych i wasanaethau canser lleol, byddem wrth eich bodd pe byddech yn ymuno â ni.
Awydd cymryd rhan? Cofrestrwch ar gyfer Her 50 2027 Jiffy a dewch yn rhan o’r bennod nesaf.
