Awst 11, 2026
Cymuned Bae Abertawe yn codi £200,000 i drawsnewid gofal canser yn Ysbyty Singleton

Mae cymuned Bae Abertawe wedi cyrraedd carreg filltir anhygoel, gan godi £200,000 ar gyfer Apêl Mynd y Filltir Ychwanegol ar gyfer Canser Elusen Iechyd Bae Abertawe. Bydd hyn yn helpu i drawsnewid gofal canser ar gyfer miloedd o gleifion ar draws de-orllewin Cymru bob blwyddyn.
Cyrhaeddwyd y garreg filltir yn dilyn llwyddiant Cais Curo Canser, twrnamaint rygbi menywod a gynhaliwyd ddydd Sadwrn yr 8fed o Awst, a gododd swm anhygoel o £54,000 ar gyfer yr apêl – gan fynd â’r apêl codi arian y tu hwnt i’r targed uchelgeisiol o £200,000.





Wedi’i lansio ym mis Medi 2024, nod yr Apêl Mynd y Filltir Ychwanegol ar gyfer Canser oedd trawsnewid yr hen uned cemotherapi yng Nghanolfan Canser De-orllewin Cymru, Ysbyty Singleton, yn adran cleifion allanol fodern, gan greu amgylchedd cynhesach a mwy croesawgar i gleifion wrth ddod â gwasanaethau canser allweddol ynghyd mewn un lleoliad.
Bydd y prosiect yn gwella mynediad at ymgynghorwyr, nyrsys arbenigol, fferyllwyr a thimau therapi, gan greu profiad mwy cyfforddus, sy’n canolbwyntio ar y claf, ar gyfer y miloedd o bobl sy’n derbyn triniaeth canser yn y ganolfan bob blwyddyn o Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Clinigol yng Nghanolfan Ganser De-orllewin Cymru, Russell Banner:
“Bydd y gwelliannau hyn yn creu lle mwy croesawgar a chefnogol ar gyfer cleifion a’u teuluoedd, gan ddod â gwasanaethau’n agosach at ei gilydd a’n helpu i ddarparu gofal mwy cydlynol sy’n canolbwyntio ar y claf. Mae’r apêl hon yn fuddsoddiad ym mhrofiad a lles cleifion sy’n derbyn triniaeth canser ledled De-orllewin Cymru ac rwyf mor ddiolchgar am yr holl amser ac ymdrech y mae’r gymuned wedi’i rhoi i godi’r arian hwn.”
Mae’r apêl wedi cael ei gyrru gan gannoedd o godwyr arian, rhoddwyr, busnesau lleol, ysgolion, grwpiau cymunedol, staff y GIG a gwirfoddolwyr sydd wedi trefnu popeth o farathonau a dringo mynyddoedd i werthu cacennau, diwrnodau golff, digwyddiadau elusennol a heriau noddedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Daeth yr ymdrech olaf drwy Touched by Cancer, lle ymunodd timau rygbi cyffwrdd menywod o bob cwr o Dde Cymru i godi swm anhygoel o £54,000, gan sicrhau bod yr apêl yn croesi’r llinell derfyn. At ei gilydd, mae’r twrnamaint wedi codi £78,000 ar gyfer Apêl Mynd y Filltir Ychwanegol ar gyfer Canser, gan gyfrannu mwy na thraean (39%) at gyfanswm yr apêl o £200,000. Mae hyn wedi’i gyflawni’n bennaf drwy straeon emosiynol codwyr arian a’u cysylltiadau â’r ganolfan ganser.
Dywedodd Cathy Stevens, Swyddog Elusen Cymorth Cymunedol yn Elusen Iechyd Bae Abertawe:
“Mae hyn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fo cymuned Bae Abertawe yn dod ynghyd. Mae Canolfan Canser De-orllewin Cymru yn gwneud gwaith anhygoel gan ofalu am filoedd o gleifion y flwyddyn. Bydd yr Apêl Mynd y Filltir Ychwanegol ar gyfer Canser yn ychwanegu at hyn drwy fynd y tu hwnt i gyllid craidd y GIG – gan adnewyddu’r gofod i fod yn fwy croesawgar ac yn llai clinigol. Mae cyflawni ein nodau codi arian yn ein galluogi i ddechrau ar y gwaith adnewyddu, gan gael effaith barhaol ar gleifion canser a’u teuluoedd am flynyddoedd i ddod.”

Ymhlith y rhai a gafodd eu hysbrydoli i gefnogi’r apêl mae Rachel Cole, a gwblhaodd Hanner Marathon Abertawe er cof am ei mam, Sandra, a gafodd driniaeth yng Nghanolfan Canser De-orllewin Cymru. Mae Rachel yn falch i awn o glywed fod y targed wedi’i gyflawni a’i bod wedi cyfrannu at gyrraedd y nod hwn:
“Gall cael cyfleusterau gwell ac amgylchedd cyfforddus a chroesawgar wneud gwahaniaeth mawr i unigolion sy’n mynd trwy gyfnod mor anodd yn eu bywydau gan ei fod yn brofiad mor llethol yn emosiynol.”
Bydd y buddsoddiad o £200,000 yn helpu i greu adran cleifion allanol fwy croesawgar, ailagor bar te dan arweiniad gwirfoddolwyr, a gwella profiad cleifion canser a’u hanwyliaid am flynyddoedd lawer i ddod.
Mae pob person a roddodd arian, a gododd arian, a wirfoddolodd, a noddodd ddigwyddiad neu a rannodd yr apêl wedi helpu i wneud y trawsnewidiad hwn yn bosibl – gan brofi beth all gael ei gyflawni pan fydd cymuned yn mynd gam ymhellach gyda’i gilydd.


