Gorffennaf 27, 2026
Clwb Rotari’r Mwmbwls yn dewis Uned Goal Dwys i’r Newydd-anedig Ysbyty Singleton fel Elusen y Flwyddyn

Mae Clwb Rotari’r Mwmbwls wedi enwi cronfa Uned Gofal Dwys Newyddenedigol (NICU) Elusen Iechyd Bae Abertawe yn Ysbyty Singleton fel Elusen y Flwyddyn, gyda chyfres o weithgareddau codi arian wedi’u cynllunio i helpu i ddarparu offer achub bywyd hanfodol ar gyfer yr uned.
Beth fydd yn cael ei ariannu drwy’r cydweithrediad
Bydd cyfran sylweddol o’r arian a godir yn mynd tuag at brynu dau Sganiwr Uwchsain Newyddenedigol Cludadwy (Uwchsain Pwynt Gofal – POCUS) ar gyfer yr Uned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig. Gan gostio tua £4,000–£5,000 yr un, byddai’r sganwyr yn galluogi clinigwyr newyddenedigol i gynnal archwiliadau uwchsain wrth ochr y gwely heb orfod symud babanod sy’n ddifrifol wael neu sy’n cael eu geni’n gynamserol o gwmpas yr uned. Mae’r dechnoleg hon yn caniatáu diagnosis a phenderfyniadau triniaeth cyflymach, yn lleihau’r angen i drin a tharfu ar fabanod newydd-anedig agored i niwed, yn gwella asesiad o’r galon, yr ysgyfaint a’r pibellau gwaed, ac yn cefnogi gweithdrefnau mwy diogel.
Byddai cyflwyno POCUS i ofal arferol hefyd yn gosod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ymhlith yr unedau newyddenedigol cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio’r dechnoleg arloesol hon yn rheolaidd, gan helpu i wella gofal a chanlyniadau i rai o fabanod mwyaf sâl y rhanbarth.
Digwyddiad codi arian sydd ar y gweill
Bydd prif ddigwyddiad codi arian y Clwb, Cinio Siampên Elusennol blynyddol, yn digwydd ddydd Sul 9 Awst yng Nghlwb Golff Bae Langland, gan ddod â thua 80 o westeion ynghyd am brynhawn o adloniant, codi arian ac ysbryd cymunedol.
Bydd gwesteion yn mwynhau adloniant byw gan gerddorion ifanc talentog o ‘Loud Applause Rising Stars’ (LARS), ochr yn ochr â gwobrau raffl, arwerthiant dall ac arwerthiant byw. Yn ogystal, anogir y mynychwyr i ddod ag unrhyw emwaith neu eitemau aur, arian neu blatinwm diangen, y bydd Clwb Rotari’r Mwmbwls yn eu hailgylchu am eu gwerth llawn, heb unrhyw gostau uwchben, gan sicrhau bod pob ceiniog a godir yn mynd tuag at gefnogi’r elusen.
Dywedodd Thomas Williams, Llywydd Clwb Rotari’r Mwmbwls “ Rydym wrth ein bodd yn gweithio gydag Elusen Iechyd Bae Abertawe ac wedi dewis Uned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig Ysbyty Singleton fel ein Helusen y Flwyddyn. Mae’r gwaith anhygoel a wneir gan y meddygon, y nyrsys a’r tîm newyddenedigol ehangach yn cefnogi babanod a theuluoedd yn ystod rhai o gyfnodau mwyaf heriol eu bywydau, ac roedden ni eisiau chwarae ein rhan i’w helpu i barhau i ddarparu’r safon uchaf o ofal. Mae ein Cinio Siampên Elusennol bob amser yn ddigwyddiad cymunedol gwych, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein gwesteion am brynhawn pleserus.”

Sylwadau gan Staff BIPBA
Dywedodd Helen James, Metron yr Uned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig yn Ysbyty Singleton :
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Glwb Rotari’r Mwmbwls am ddewis cefnogi ein huned. Bydd eu haelioni yn ein helpu i ddarparu offer sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gofal a roddwn i’n cleifion lleiaf a mwyaf agored i niwed. Ar ran ein tîm cyfan, diolch i bawb a gymerodd ran am ein helpu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod.”
Dywedodd Lewis Bradley, Rheolwr Elusen yn Elusen Iechyd Bae Abertawe, “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb yng Nghlwb Rotari’r Mwmbwls am ddewis cronfa Uned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig Ysbyty Singleton fel ei Elusen y Flwyddyn. Bydd eu cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r babanod a’r teuluoedd sy’n cael gofal amdanynt yn yr uned.
Rydym yn hynod ddiolchgar am ymrwymiad a haelioni’r Clwb, ac edrychwn ymlaen at gydweithio’n agos â Chlwb Rotari’r Mwmbwls drwy gydol 2026/27 i helpu i wneud hyd yn oed mwy o effaith ar ein gwasanaeth newyddenedigol yn y blynyddoedd i ddod.”
Bydd yr arian a godir yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy helpu Elusen Iechyd Bae Abertawe i ddarparu offer sy’n gwella’r gofal a’r driniaeth sydd ar gael i rai o gleifion lleiaf a mwyaf agored i niwed y rhanbarth.
Mae Elusen Iechyd Bae Abertawe yn ddiolchgar i Glwb Rotari’r Mwmbwls am ddewis Uned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig fel ei Helusen y Flwyddyn ac am ei hymrwymiad parhaus i gefnogi gwasanaethau GIG lleol a theuluoedd ledled Bae Abertawe a’r ardal ehangach.
Ynglŷn â Chronfa’r Uned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig
Mae Cronfa NICU, rhan o Elusen Iechyd Bae Abertawe, yn cefnogi babanod a theuluoedd sy’n derbyn gofal yn yr Uned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig yn Ysbyty Singleton. Drwy haelioni rhoddwyr a chodwyr arian, mae’r gronfa’n darparu offer, cyfleusterau a gwelliannau sy’n mynd y tu hwnt i gyllid y GIG, gan helpu i wella profiad babanod a’u teuluoedd yn ystod cyfnod a all fod yn hynod heriol. Mae rhoddion hefyd yn cefnogi prosiectau sy’n gwella’r amgylchedd a lles cleifion, rhieni a staff, gan sicrhau’r gofal gorau i rai o gleifion lleiaf a mwyaf agored i niwed Bae Abertawe.