Hydref 16, 2025
Taith Gerdded Everest ar gyfer Gwasanaethau Canser Abertawe

Mae’r codwr arian lleol, William Thomas, ar hyn o bryd yn wynebu’r her anhygoel o deithio i Gwersyll Sylfaen Everest i godi arian ar gyfer apêl Apêl Mynd y Filltir Ychwanegol ar Gyfer Canser Elusen Iechyd Bae Abertawe – i gyd er cof am ei dad annwyl.
Collodd Will ei dad i ganser y pancreas ym mis Tachwedd 2023, ac roedd eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i staff y GIG a ofalodd amdano ar Ward 12 Ysbyty Singleton.
“Cafodd fy nhad ofal gwych gan y tîm yn Singleton,” meddai Will. “Roedd e a’m mam wrth eu boddau’n cerdded, ac maen nhw wedi trosglwyddo’r angerdd hwnnw i mi. Felly roedd yr her hon yn teimlo fel y ffordd berffaith o ddweud diolch – drwy wneud rhywbeth sy’n ein cysylltu, ac ar yr un pryd yn codi arian ar gyfer gwasanaethau canser lleol.”
Gan beidio â gwybod ble i ddechrau, darganfu Will yn fuan fformiwla lwyddiannus ar gyfer codi arian – ddigwyddiadau a ddaeth â’r gymuned at ei gilydd megis nosweithiau cwis a bingo
“Fe ges i’n synnu mor effeithiol oedd y digwyddiadau hyn i godi arian,” meddai. “Roedd y tri lleoliad a gynhaliodd y digwyddiadau – Y Gwachel, The Dillwyn Arms a Chlwb Rygbi Trebanos – i gyd mor gefnogol ac awyddus i helpu. Hoffwn ddiolch o galon i staff pob un o’r tri lleoliad am eu haelioni.”
Diolch i’r digwyddiadau, rhoddion a chyfraniadau gwobrau gan fusnesau lleol, mae Will eisoes wedi codi dros £2,000 – sef dwywaith ei darged gwreiddiol!
“Rwy’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi fy nghefnogi – boed trwy fynychu digwyddiadau, rhoi gwobrau, neu gyfrannu ar-lein. Bydd unrhyw beth rwy’n ei godi ar ben hyn yn wych!”
Hyfforddi ar gyfer Taith Ei Fywyd
Mae Will wedi treulio’r misoedd diwethaf yn cerdded ar draws Cymru i baratoi ar gyfer y daith, gan gymryd rhan mewn heriau megis y daith 22-milltir Beat the Beacons, Cadair Idris, yn ogystal â llwybrau ar draws Eryri, Llwybr Arfordir Sir Benfro a’r Gŵyr.
“Rwy wedi bod yn gwthio fy hun yn y gampfa bron bob nos ac yn gwneud teithiau bryniau’n gynnar yn y bore ger fy nghartref. Rwy’n gyffrous ond hefyd braidd yn nerfus nawr fy mod ar fin gadael – gobeithio y bydd yr holl hyfforddiant wedi dwyn ffrwyth!”
Cefnogi’r Apêl Mynd y Filltir Ychwanegol ar Gyfer Canser
Bydd yr arian a godir gan Will yn cefnogi Apêl Mynd y Filltir Ychwanegol ar Gyfer Canser, sy’n helpu i wella gofal cleifion a lles staff ar draws gwasanaethau’r GIG lleol.
Mae pawb yn Elusen Iechyd Bae Abertawe yn dymuno pob lwc i Will wrth iddo ddechrau ar ei daith i Gwersyll Sylfaen Everest – a byddwn yn ei gefnogi bob cam o’r ffordd!

