Hydref 9, 2025
Arglwydd Faer yn Cefnogi Apêl Elusen Canser Abertawe

Mae Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Cheryl Philpott, wedi dewis apêl Mynd y Filltir Ychwanegol dros Ganser Elusen Iechyd Bae Abertawe fel ei helusen swyddogol ar gyfer y flwyddyn. Mae ei chefnogaeth eisoes yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran codi ymwybyddiaeth ac arian hanfodol ar gyfer Canolfan Canser De-orllewin Cymru (SWWCC) yn Ysbyty Singleton.
Llwyddiant Parti Te Prynhawn Mefus
Un o uchafbwyntiau codi arian yr Arglwydd Faer hyd yn hyn oedd y Parti Te Prynhawn Mefus, a gynhaliwyd yn y Plasty ac a fynychwyd gan tua 140 o westeion. Roedd y digwyddiad yn cyfuno dathliad haf â phwrpas elusennol, gan ddod â chefnogwyr, cleifion a staff ynghyd i gefnogi gwasanaethau canser lleol.
Ymhlith y rhai a fynychodd roedd aelodau staff y Ganolfan Ganser Sarah Dawtry a Nicki Davies, a siaradodd â gwesteion am waith hanfodol y ganolfan a sut mae arian elusennol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cleifion a staff.
Dywedodd Sarah:
“Mae’n fraint gweithio gyda’r Arglwydd Faer, ac rydym wrth ein bodd ei bod wedi dewis yr ymgyrch Mynd y Filltir Ychwanegol fel ei helusen ar gyfer ei blwyddyn yn y swydd. Defnyddir yr holl elw a godir i gefnogi cleifion, eu teuluoedd a staff Canolfan Canser De-orllewin Cymru.”
Lawnsio’r ymgyrch “Punt y Pen”
Canolbwynt cefnogaeth yr Arglwydd Faer yw’r ymgyrch Punt y Pen, sy’n lansio ym Marchnad Abertawe ar ddydd Sadwrn, 11 Hydref am 12pm. Bydd y lansiad yn cynnwys perfformiad gan Gôr Phoenix Cymru, ochr yn ochr ag ymddangosiadau gan westeion arbennig gan gynnwys y seren radio a phanto poblogaidd Kev Johns.
Mae’r ymgyrch yn gwahodd i bawb yn Abertawe i gyfrannu £1 tuag at darged codi arian £200,000 yr apêl. Bydd masnachwyr y farchnad hefyd yn ymuno, bydd bocsys casgliadau ar gael ar stondinau ar draws y farchnad dan do.
Dywedodd y Cynghorydd Philpott:
“Dau o fy uchelgeisiau pan ddes i’n Arglwydd Faer oedd codi cymaint o arian â phosibl ar gyfer Canolfan Ganser De-orllewin Cymru, a helpu i hyrwyddo ein marchnad dan do wych. Rwy’n falch iawn o gyfuno’r ddau ar gyfer lansio apêl Punt y Pen. Pe bai pob un o 250,000 o drigolion Abertawe yn rhoi £1, byddem yn cyrraedd ein targed mewn dim o dro.”
Ychwanegodd Lewis Bradley, Rheolwr Elusen Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:
“Rydym mor gyffrous bod yr Arglwydd Faer yn cefnogi apêl Mynd y Filltir Ychwanegol dros Ganser trwy’r ymgyrch Punt y Pen. Mae Marchnad Abertawe wrth wraidd y gymuned, ac mae’r ymgyrch hon yn gyfle gwych i ddod â phobl ynghyd â chodi arian hanfodol ar gyfer gofal canser.”
Digwyddiadau codi arian sydd ar y gweill
Mae ymgyrch codi arian yr Arglwydd Faer i barhau gyda chyfres o ddigwyddiadau mawr. Bydd hyn yn cynnwys dau ddigwyddiad unigryw i wahoddiad yn unig, yn ogystal â Pherfformiad Amrywiol Derbyniad Dinesig yr Arglwydd Faer ar 22 Ebrill 2026, Theatr y Grand Abertawe. Bydd hwn yn ddigwyddiad cyhoeddus ar raddfa fawr gyda hyd at 850 o docynnau ar gael, yn cynnwys perfformiadau gan artistiaid lleol gyda’r elw’n cefnogi’r apêl.
Yn ogystal, bydd tirnodau eiconig Abertawe, gan gynnwys Arena Abertawe, yn cael eu goleuo yn lliwiau’r elusen i ddangos undod â’r apêl.
Am yr apêl
Nod apêl Mynd y Filltir Ychwanegol dros Ganser Elusen Iechyd Bae Abertawe yw codi £200,000 i drawsnewid yr hen Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Singleton yn ystafell cleifion allanol fodern a chroesawgar. Bydd y lle newydd hwn yn darparu amgylchedd cynnes a chefnogol i gleifion a’u teuluoedd yn ystod rhai o gyfnodau anoddaf eu bywydau.

