Awst 27, 2025
Tynnu Tryc Abertawe yn ôl i gefnogi cleifion canser

ABydd lori sy’n pwyso sawl tunnell unwaith eto’n ganolbwynt her gymunedol fwyaf Abertawe, wrth i Dynnu Tryc Abertawe ddychwelyd ddydd Sul nesaf (7 Medi) yn AT Morgan & Son, Abertawe.
Bydd timau o bedwar yn rhoi eu gwaith tîm a’u cryfder ar brawf drwy dynnu’r cerbyd 15 metr yn yr amser cyflymaf, i gyd wrth godi arian ar gyfer apêl Going the Extra Mile for Cancer Elusen Iechyd Bae Abertawe, sy’n cefnogi cleifion yn Nghanolfan Ganser Gorllewin Cymru, Ysbyty Singleton.
Cododd digwyddiad y llynedd £5,500 i Elusen Iechyd Bae Abertawe, a gwelwyd 13 tîm yn cystadlu – o grwpiau o gydweithwyr a ffrindiau’r gampfa i deuluoedd yn cymryd yr her gyda’i gilydd. Mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd digwyddiad eleni’n adeiladu ar y llwyddiant hwnnw.

““Nid cryfder yn unig sydd dan sylw – mae’n ymwneud â gwaith tîm, penderfyniad ac ysbryd cymunedol,” meddai trefnydd y digwyddiad, Helen Morgan o AT Morgan & Son. “Mae pawb sy’n cymryd rhan, a phawb sy’n dod draw ar y diwrnod, yn ein helpu i godi arian a fydd yn mynd yn uniongyrchol at wella bywydau cleifion canser yn ein hardal leol.”
Mae’r diwrnod yn cynnig mwy na’r tynnu tryc ei hun, gyda stondinau bwyd, gweithgareddau i’r teulu, a rafflau elusennol. Eleni, bydd elw’r rafflau yn mynd tuag at Ospreys in the Community, elusen arall yn Abertawe, tra bydd arian a godir gan y timau yn mynd tuag at apêl Going the Extra Mile for Cancer, gan ehangu effaith yr ymgyrch godi arian.
Dywedodd Elusen Iechyd Bae Abertawe fod y gefnogaeth gan gyfranogwyr a gwylwyr yn amhrisiadwy. Meddai Catrin Frame o Elusen Iechyd Bae Abertawe: “Mae pob tîm sy’n cofrestru yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae’r arian a godir drwy ddigwyddiadau fel hyn yn ein galluogi i ariannu prosiectau sy’n wirioneddol fuddiol i gleifion a theuluoedd yn y ganolfan ganser. Rydym yn hynod ddiolchgar am y brwdfrydedd a ddangosir gan gymuned Abertawe ac edrychwn ymlaen at y diwrnod!”
Mae cofrestriadau timau ar gyfer Tynnu Tryc Abertawe yn cau dydd Sul 31 Awst, felly anogir grwpiau i gofrestru’n fuan i osgoi siom. Mae Tynnu Tryc Abertawe yn cynnwys mynediad agored yn ogystal â chystadleuaeth i fenywod yn unig, gyda gwobrau cyffrous i’r enillwyr. Rhaid i dimau godi isafswm o £200 fel rhan o’r cofrestriad, gyda’r elw’n mynd tuag at gefnogi cleifion canser ledled De a Gorllewin Cymru. Cofrestrwch drwy Enthuse.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i wylwyr, ac mae’r trefnwyr yn annog teuluoedd, ffrindiau a’r gymuned ehangach i ddod draw i gefnogi’r timau.