Awst 19, 2025
Uchafbwyntiau Her Ganser 50 Jiffy

Ddydd Sul, 17 Awst 2025, dan haul braf, cymerodd 330 o seiclwyr yr her ac fe wnaethant feicio 50 milltir o Stadiwm Dinas Caerdydd i Fae Bracelet yn Abertawe, gan godi arian i ddwy o ganolfannau canser blaenllaw Cymru: Canolfan Ganser Felindre a Chanolfan Ganser De-orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton.
Dan arweiniad ein eicon rygbi Cymreig ei hun, Jonathan “Jiffy” Davies, daeth y daith â phobl o bob cefndir ynghyd — wedi’u huno gan achos cyffredin. Dywedodd Jiffy, y mae ei deulu wedi cael profiad personol o’r gofal arbennig y mae’r canolfannau hyn yn ei ddarparu:
“Mae’r ddwy elusen hyn yn golygu cymaint i mi. Mae’r gefnogaeth maen nhw’n ei chynnig i gleifion a theuluoedd ledled Cymru, gan gynnwys fy ngwraig annwyl a llawer o ffrindiau agos, yn wirioneddol eithriadol. Maen nhw’n ariannu gofal, gwasanaethau, a phrosiectau sy’n rhoi cysur a gobaith pan fo pobl ei angen fwyaf. Rydyn ni’n hynod o ffodus i’w cael, a byddaf yn parhau i annog cymaint o bobl ag sy’n bosib i gefnogi’r achosion anhygoel hyn.”
Crëwyd llawer o eiliadau emosiynol hefyd yn ystod y digwyddiad:
● Teulu a ffrindiau’n talu teyrnged wrth i dîm o 10 o seiclwyr feicio er cof am Coweeta Pemberton, gyda’i anwyliaid wrth eu hochr ar y llwybr
● Croesi’r llinell derfyn gyda hebrwng heddlu, gan uno’r 330 o feicwyr i gyd wrth gyrraedd Bae Bracelet
● Parti ar ôl y daith yn The Lighthouse yn Abertawe, gyda cherddoriaeth fyw, bwyd a diod lleol, a £1 yn cael ei roi am bob diod a werthwyd — gan wneud y dathliad hyd yn oed yn felysach!
Hoffem ddweud diolch arbennig i’n prif godwyr arian a wnaeth fynd ymhell y tu hwnt i’w targedau codi arian:
Richard Morgan a gododd swm anhygoel o £4078.75
Tony Lovell a gododd £1843
Lyndon Edwards a gododd £1465
Tîm gorau o ran codi arian: Team Rhondda Tri, a gododd £1038!
Estynnwn ein diolch diffuant hefyd i’n noddwyr Andrew Scott Ltd ac UPRISE BIKES, i’n gwirfoddolwyr, swyddogion diogelwch ar y llwybr, trefnwyr y digwyddiad, meddygon, ein ffrindiau yn Elusen Ganser Felindre, ac i bawb a wnaeth gyfrannu eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad i wneud y diwrnod yn un bythgofiadwy.
Mae’r cyfanswm terfynol o hyd yn cael ei gwblhau, ac mae rhoddion yn dal i gyrraedd, ond ar hyn o bryd rydym ar £48,000 — a fydd yn mynd tuag at wasanaethau yng Nghanolfan Ganser De-orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton, a Chanolfan Ganser Felindre.
Wnewch chi’n helpu ni gyrraedd £50K?
Mae pob rhodd yn cyfrif. Rydym ar fin cyrraedd carreg filltir o £50,000 — camp fawr os gallwn groesi’r trothwy hwn gyda’n gilydd! Dewch inni greu momentwm a chyrraedd £50K ar gyfer gofal canser blaengar ar ein stepen drws.
Eisiau cofrestru ar gyfer Her Ganser 50 Jiffy 2026?
Rydym eisoes wedi agor cofrestriadau cynnar — nodwch y dyddiad yn eich dyddiadur a chofrestrwch heddiw!



