Mai 21, 2025
Barddoniaeth i staff GIG Abertawe

Diolch i’ch cefnogaeth, mae Elusen Iechyd Bae Abertawe yn helpu i ariannu sesiynau lles creadigol ar gyfer staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – ac mae’r ychwanegiad diweddaraf i gyd yn ymwneud â phŵer geiriau.
O 8 Mai i 26 Mehefin, mae’r artist Cymreig enwog Rufus Mufasa yn arwain gweithdai barddoniaeth wythnosol yn Llyfrgell Ysbyty Treforys bob dydd Iau, 1-2:30pm. Mae’r sesiynau galw heibio hyn, sydd ar agor i holl staff BIPBA, yn cynnig lle i ymlacio, myfyrio a chysylltu trwy ysgrifennu creadigol.
“Mae celf yn rhoi ffyrdd llawen inni fynd i’r afael â hyd yn oed y materion mwyaf difrifol, a gwn y bydd Rufus yn ysbrydoli gyda’i chreadigrwydd,” meddai Johan Skre, Cydlynydd Celfyddydau mewn Iechyd.
Gall staff archwilio ysgrifennu mewn amgylchedd chwareus a chefnogol – nid oes angen profiad, dim ond parodrwydd i roi cynnig ar rywbeth newydd.
“Rydym wrth ein bodd yn cael Rufus yma. Mae barddoniaeth mewn lleoliadau gofal iechyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol,” meddai tîm Llyfrgell Treforys.
Diolch i chi am ein helpu i gefnogi lles staff y GIG ar draws Bae Abertawe. Mae eich rhoddion yn cael effaith wirioneddol.
