Mawrth 31, 2025
Cais Curo Canser

Ddydd Sadwrn, 9 Awst 2025, bydd menywod o bob rhan o ranbarth Bae Abertawe yn dod at ei gilydd yng Nghlwb Rygbi Aberafan ar gyfer Cais Curo Canser – twrnamaint rygbi cyffwrdd arbennig â phwrpas pwerus.
Wedi’i drefnu gan Elusen Iechyd Bae Abertawe, bydd y digwyddiad yn codi arian hanfodol ar gyfer apêl Mynd y Filltir Ychwanegol ar gyfer Canser sy’n anelu at gynhyrchu £200,000 i gefnogi Canolfan Ganser De Orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton. Mae’r ganolfan hon yn darparu triniaethau hanfodol fel radiotherapi, cemotherapi, ac imiwnotherapi i filoedd o gleifion ar draws ardaloedd byrddau iechyd Bae Abertawe a Hywel Dda.
Yn fwy na gêm yn unig, mae Cais Curo Canser yn ddathliad o wytnwch, cryfder a chymuned. Mae llawer o’r menywod sy’n cymryd rhan wedi cael eu heffeithio’n bersonol gan ganser, boed hynny drwy eu diagnosis eu hunain neu drwy gefnogi anwyliaid ar eu teithiau.
Un o’r merched hynny yw Ruth Wearing, aelod o dîm rygbi cyffwrdd merched Clwb Rygbi Bryncoch. Cafodd Ruth ddiagnosis o ganser yr ofari ym mis Gorffennaf 2024 ac mae wedi bod yn cael triniaeth ers hynny. Tra na fydd yn chwarae yn y twrnamaint, bydd yno ar y diwrnod i gefnogi ei thîm a’r achos.
“Law ar y galon, mae hwn wedi bod yn un o’r pethau anoddaf i mi ei wneud erioed. Ond heblaw am fy nheulu a ffrindiau, rwyf hefyd wedi cael cefnogaeth anhygoel gan fy nhîm rygbi. Fe wnes i ffrindiau newydd pan ymunais i, ac maen nhw wedi bod yno i mi bob cam o’r ffordd. Dyna hanfod rygbi.”
Er mwyn dal ysbryd y digwyddiad anhygoel hwn, mae Foto Frenzy yn garedig iawn wedi creu’r fideo pwerus hwn sy’n cynnwys stori Ruth a rhai menywod eraill y mae canser wedi cyffwrdd â’u bywydau.
Gwyliwch y fideo isod i glywed eu straeon ysbrydoledig:
Mae llwyddiant Cais Curo Canser yn dibynnu ar haelioni busnesau a noddwyr lleol. Os hoffech chi gefnogi’r digwyddiad trwy nawdd, gan gynnwys rhoddion nwyddau a gwasanaethau, cysylltwch â ni i drafod ein cyfleoedd noddi ar gyfer Cais Curo Canser.
Rydym yn eich annog i ddod draw i gefnogi ein timau lleol ar 9 Awst 2025! Dewch i ni ddod at ein gilydd i wneud Cais Curo Canser yn un o’r digwyddiadau rygbi elusennol mwyaf dylanwadol yng Nghymru!