Mawrth 26, 2025
Buddugoliaeth Fawr i Cwtsh Clos! Codwyd £8000

Rydym wrth ein bodd i rannu bod swm anhygoel o £8,182 wedi’i godi i gefnogi adnewyddu Cwtsh Clos, llety teulu NICU yn Ysbyty Singleton!
Diolch yn arbennig i’n noddwyr hael a fu’n arwerthu crysau chwaraewyr yr Elyrch, gan godi £4,300 yn ystod gêm Cwtsh Clos yr Elyrch ar yr 22ain o Chwefror. Fe wnaeth cyfraniadau ychwanegol o gasgliadau bwced, rhoddion ar-lein, ac arian cyfatebol gan Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe (£3,882) ein helpu i gyrraedd y cyfanswm gwych hwn.
Gyda’r hwb hwn, rydym bellach wedi codi tua 75% o’n targed o £160,000! Mae’r gwaith adnewyddu wedi hen ddechrau, ond mae angen eich help chi arnom o hyd i gyrraedd y llinell derfyn.
A allwn ni ddibynnu ar eich cefnogaeth? Mae pob rhodd yn dod â ni’n agosach at ddarparu gofod cysurus i deuluoedd â babanod yn NICU.
Cyfrannwch heddiw at apêl Cwtsh Clos
