Elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Apêl
Apêl Cwtsh Clos
Rydym yn codi £160,000 i adnewyddu pum cartref oddi cartref i deuluoedd â babanod sâl a bach yn Uned Gofal Dwys Newyddenedigol Ysbyty Singleton (UGDN).
Partneriaeth swyddogol gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe
Rydym wrth ein bodd bod Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe wedi ein dewis fel eu partner elusennol swyddogol ar gyfer apêl Cwtsh Clos ar gyfer tymor 2024-25. Mae’n ffit gwych gyda’r ddau ohonom yn gwasanaethu de orllewin Cymru gyfan.
Gallwch wneud taliad untro neu sefydlu rhodd reolaidd i Elusen Iechyd Bae Abertawe drwy’r platfform rhoddion a chodi arian Enthuse, nad oes ganddo ffioedd darparwyr taliadau. Cofiwch nodi pa ward, adran neu apêl yr hoffech iddi fynd iddi.
Gallwch hefyd ddefnyddio JustGiving, sy’n cynnig llawer o awgrymiadau, help a chyngor os ydych chi’n cynnal eich digwyddiad eich hun.
Rydym yn codi £160,000 i adnewyddu pum cartref oddi cartref i deuluoedd â babanod sâl a bach yn Uned Gofal Dwys Newyddenedigol Ysbyty Singleton (UGDN).
Mae’r UGDN yn gofalu am bron i 500 o fabanod y flwyddyn. Mae teuluoedd yn dod yma o bob rhan o Dde Cymru, nid dim ond Bae Abertawe, gyda llawer yn byw oriau i ffwrdd mewn car a hyd yn oed yn hirach ar drafnidiaeth gyhoeddus.